O dewch, mawrygwn Dduw i gyd,
A chyd-ddyrchafwn lef;
Pan geisiais i ei wyneb cu,
Gwrandawodd fry fy llef.
Am ei ymwared canu wnaf,
Ni thawaf sôn am hon,
Nes gwneler pawb o isel fryd
Yn hyfryd iawn yn llon.
O profwch, gwelwch mor dda yw
Yr Arglwydd byw i'w saint;
Gwyn fyd y gwr a'i cred yn awr,
'Does neb mor
fawr ei fraint.
O ofnwch Dduw, chwi seintiau gwan,
Eich cwynfan glyw o'r nef:
Ac nid oes eisiau
dim sydd dda,
Ar neb a'i hofna Ef.
Cas. o Salmau a Hymnau (R Phillips) 1843
[Mesur: MC 8686] gweler: Ar lais y tlawd gwrandawodd Duw Bendithio wnaf fy Arglwydd Ner |
O come, let us all magnify God,
And raise together a cry;
When I sought his dear face,
He heard above my cry.
About his deliverance I shall sing.
I shall not cease to make this known,
Until all of lowly mind are made
Very delightfully cheerful.
O test ye, see how good is
The living Lord to his saints;
Blessed is the man who believes him now,
There is no-one with
so great a privilege.
O fear God, ye weak saints,
Your complaint he hears from heaven:
And there is no want
of anything that is good,
For anyone who fears him.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|